Croeso i Penucheldre
Penucheldre - Annibyniaeth - Cymdogaeth - Cefnogaeth
Croeso...Mae pawb yn haeddu
ymddeoliad hapus,
heb straen, gyda
ffrindiau o’u cwmpas
ac amser i fwynhau
pleserau bywyd.
Ym Mhenucheldre, dyna’n union sydd ar gael.
Rydym yn datblygu 54 o fflatiau newydd, modern
digon helaeth ond eto yn ddigon bychan i fod yn
hawdd ymdopi â hwy (dim mwy o orfod poeni am
ormod o waith glanhau a thrwsio). A phopeth tu ôl
i’ch drws ffrynt preifat eich hun.
Canolbwynt Penucheldre fydd yr ardal gymunedol
agored, olau, ble gallwch ymlacio gyda ffrindiau yn y
café-bar neu fwynhau eich hoff ddiddordebau. Gall
eich ffrindiau ymuno hefyd, hyd yn oed os nad ydynt
yn drigolion, drwy ymuno â Chlwb Pen Llys.
Os gwelwch bod gennych anghenion gofal wrth
fynd yn hŷn, mae ein cartrefi wedi cael eu hadeiladu
fel bod modd ychwanegu cymhorthion yn hawdd
iawn. Gallwn hefyd drafod â chi sut y gallwn
ddarparu gofal a chefnogaeth, mewn cynllun wedi’i
deilwra’n arbennig ar eich cyfer.
Felly am ddyfodol annibynnol, diogel, efallai mai
Penucheldre yw’r lle i chi.
Doleni a Linciau Defnyddiol
Brochure - cliciwch yma
Ffurflen Gais - cliciwch yma
Gwybodaeth Taliadaeth
Age Cymru - cliciwch yma
Cyngor Sir Ynys Mon - cliciwch yma
Cymdeithas Tai Eryri - cliciwch yma
